sebastian-coman-photography-cQbOSRpElxw-unsplash.jpg

Coginio - er mwyn Cymru!

Helpwch ni i greu chwyldro yng Nghymru trwy goginio…

A close up photo of a steak being cooked with a blow torch.

Ein bwriad yw i drawsnewid perthynas Cymru â bwyd - er gwell…

Rydyn ni i gyd yn gwybod nad ydy system fwyd Cymru yn gweithio o’n plaid fel pobl – mae’n gadael i lawr ein iechyd, ein ffermwyr, ein bywyd gwyllt a’n heconomi wledig.

Rydyn ni’n credu bod yr angerdd a’r sgiliau sydd gan gogyddion i fedru cymryd cynhwysion a’u trawsnewid yn bryd o fwyd blasus, fforddiadwy yn ddigon i ddechrau chwyldro mewn bwyd yng Nghymru.

Helpwch ni i godi £250,000 erbyn mis Rhagfyr 2024, i drawsnewid bywydau trwy fwyd

“Pan fydd pobl yn ffurfio perthynas â bwyd go iawn, dydyn nhw byth yn mynd yn ôl…”

Mae Cegin y Bobl yn elusen newydd uchelgeisiol i Gymru a ffurfiwyd yn hydref 2024 i barhau ac ehangu gwaith llwyddiannus prosiect 'Cook24' o Sir Gaerfyrddin sydd wedi rhedeg ers 3 blynedd (gyda chefnogaeth Coleg Sir Gâr, Cyngor Sir Caerfyrddin a Ffyniant Bro).

Rydym wedi gweld y gwahaniaeth y gall gysylltu pobl â bwyd da ei wneud. Rydym wedi gweithio gyda phawb o blant ysgolion cynradd trefol i grwpiau o ferched hŷn yng nghefn gwlad – ac wedi gweld bywydau yn cael eu trawsnewid.

Gadewch i ni adrodd hanes *Ben, sy'n 9 oed, ac yn credu bod cwrs ei fywyd wedi cael ei newid er gwell trwy gymryd rhan. Neu am y garfan gyfan o ddefnyddwyr banc bwyd a dreuliodd 6 hanner diwrnod ar un o'n cyrsiau - a rhoi'r gorau i ddefnyddio'r banc bwyd diolch i'w sgiliau a'u hyder newydd…

Mae angen i ni rymuso’r genedl…

Credwn fod y sgiliau a’r angerdd i newid ein perthynas â bwyd yn bodoli eisoes o fewn i bob cymuned. Pan fydd pobl yn angerddol am fwyd, yn deall ei bwysigrwydd ac yn gwybod sut i'w wneud yn blasu'n wych am brisiau fforddiadwy, gallant wella eu hiechyd, eu lles a chefnogi eu heconomi a'u cynhyrchwyr lleol.

Gyda'ch help chi, yn 2025, byddwn yn:

  • Dyfnhau ein gwaith yn Sir Gaerfyrddin. Rydym am barhau i weithio'n ddiwyd yn y cymunedau lle rydym wedi gweld newid, ond rydym yn gwybod bod rhagor i'w wneud i ailgysylltu pobl â bwyd a mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu.

  • Dechrau gweithio ledled Cymru. Rydym wedi gweld yr effaith anhygoel y gall y gwaith hwn ei gael. Rydym am gysylltu cogyddion angerddol mewn rhannau eraill o'n gwlad ag ysgolion a grwpiau sydd eisiau dysgu coginio, gan ledaenu ein gwaith ledled Cymru.

  • Edrych i’r dyfodol – trwy fuddsoddi mewn addysg. Ochr-yn-ochr ag addysgu plant ysgol ac arweinwyr cymunedol mae angen codi’r to nesaf o arwyr bwyd, gwneuthurwyr polisi a chogyddion angerddol yng Nghymru – felly rydyn ni wrthi’n ddiwyd gyda phartneriaid bendigedig i lunio cwricwlwm cyffrous ar gyfer dyfodol bwyd ac amaeth.

A close up photo of a pair of hands holding baby tomatoes over a kitchen sink.

Ein Pobl…

Rydyn ni’n ffodus i weithio gyda thim angerddol a medrus, gyda phrofiad helaeth o letygarwch, byd addysg ac ysgolheictod, rheoli elusennau a busnes, cyllid a marchnata.

Mae gan lawer o’n cogyddion a’n hyfforddwyr broffil cenedlaethol, ac maen nhw wedi dod yn rhan o’r gwaith er mwyn gwneud gwahaniaeth. Yn eu plith mae Hazel Thomas, Carwyn Graves, Simon Wright, Anja Dunk, Scott Davis, Jen Goss, Alex Vines, Jemma Vickers, Polly Baldwin ac eraill.

Ac mae gyda ni noddwyr bendigedig y tu ôl i’n gwaith – bydd rhagor ar hynny cyn bo hir...

Mae ‘na wirionedd syml wrth graidd ein model:

Dyma fynd i’r afael ag afiechyd, ansicrwydd bwyd a’r heriau sy’n wynebu bwyd ac amaeth trwy fuddsoddi’n drwm mewn un sgil syml, allweddol: Pan fydd pobl yn ffurfio perthynas â bwyd go iawn, dydyn nhw fyth yn mynd yn ôl.

"Rydyn ni am fyw mewn Cymru lle does dim rhaid i neb fwyta sothach fydd yn eu gwneud nhw’n sal"

"Rydyn ni am fyw mewn Cymru lle does dim rhaid i neb fwyta sothach fydd yn eu gwneud nhw’n sal"

Mae angen eich help chi arnom ni!

Mae gennym weledigaeth uchelgeisiol, ac mae angen eich cefnogaeth arnom i’w gwireddu…

 Bydd £600,000 yn ein galluogi i:

  • Ddyfnhau ac ehangu ein gwaith i newid diwylliant bwyd ysgolion yn Sir Gaerfyrddin gyda gwaith dwys gyda disgyblion, athrawon a bwydlenni ysgol mewn hyd at 14 ysgol gynradd - £200,000

  • Dechrau ehangu i ardaloedd eraill o Gymru, gyda pheilot mewn cymuned mewn rhan arall o'r wlad - £100,000

  • Gweithio gydag o leiaf 50 o grwpiau cymunedol i'w hyfforddi mewn arweinyddiaeth bwyd a choginio cymunedol - £200,000

  • Lansio cwrs addysg bellach cyntaf Cymru mewn arweinyddiaeth bwyd gynaliadwy i addysgu'r genhedlaeth nesaf - £100,000

  • Sefydlu Cegin y Bobl fel elusen flaenllaw mewn addysg bwyd yng Nghymru

Rydym yn siarad ag unigolion hael i ddod o hyd i ychydig dros hanner y symiau hyn - ond mae angen i chi ein helpu i gyrraedd £250,000 er mwyn i'n gwaith barhau. Mae pob £10 sy'n cael ei roi yn help mawr.

Fedrwch chi gyfrannu nawr i’n helpu i gychwyn y daith?

Bydd £20 y mis yn ein cefnogi i drawsnewid bywyd rhywun trwy fwyd. Ac os gwneith mil o bobl roi rhodd un tro o £250 byddwn wedi sicrhau dyfodol llewyrchus i’r gwaith hollbwysig yma.

Ein bwriad diffuant yw adeiladu’r fenter hon ar geiniogau’r werin!

DIOLCH O GALON!