Ein gwaith ni…
Mae Cegin y Bobl yn cynnig addysg bwyd trawnswidiol er budd pobl Cymru, gyda rhai o gogyddion, tyfwyr ac arbenigwyr bwyd gorau Cymru wrth gefn iddynt. Mae ein gwaith yn adeiladu ar raglen lwyddiannus 'Cook24' a gynhaliwyd gan Goleg Sir Gâr yn 2022-24.
Credwn fod bwyd wrth galon cymaint o'r materion anodd sy'n ein hwynebu heddiw: clefydau sy'n gysylltiedig â deiet, unigedd a phryder, a'r argyfwng ym maes ffermio, bioamrywiaeth a chostau byw.
Darganfod Byd Bwyd
Mae'r cwrs 6 wythnos hwn yn mynd â phlant ar daith, gan gyflwyno byd bwyd i’r plant trwy gyfrwng coginio ymarferol. Ein nod yw rhoi asiantaeth, cyfrifoldeb a pharch i blant yn yr ystafell ddosbarth, y gegin ac yn ystod ymweliadau â’r fferm.
Mae plant, athrawon a rhieni wedi son wrthon ni yn sgil y sesiynau hyn am bresenoldeb ac ymddygiad gwell yn yr ysgol, mwy o ganolbwyntio yn ystod gwersi, parodrwydd gan blant i roi cynnig ar fwydydd newydd, ymdeimlad o falchder a chyflawniad, a theuluoedd yn coginio o gynhwysion amrwd yn amlach gartref.
“Dw i wedi dysgu shwt gyment ac wedi rhoi cynnig ar goginio mwy gartref. Wnes i hyd yn oed fwyta pethau na fyddwn i fel arfer yn trio!”
Arweinyddiaeth Fwyd
Mae ein rhaglen arweinyddiaeth fwyd yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i athrawon, staff ysgolion ac arweinwyr cymunedol o addysg bwyd a bwyd cynaliadwy. Mae'n dysgu strategaethau i integreiddio bwyd a choginio i'r cwricwlwm neu i weithgareddau cymunedol. Dros bedwar diwrnod o sesiynau ymarferol a damcaniaethol rhyngweithiol, rydym yn grymuso staff addysgu ac arweinwyr cymunedol i ddatblygu eu cynllun bwyd ysgol neu gymunedol eu hunain.
Yn ystod y cwrs, mae Arweinwyr Bwyd newydd yn:
- Archwilio ffyrdd o ddod â phwnc bwyd i mewn i gwricwlwm neu i weithgaredd sy'n bodoli eisoes
- Dysgu sut i adeiladu partneriaethau a chydweithredu o fewn y gymuned leol neu’r ysgol
- Deall sut i sefydlu tîm gweithredu bwyd yn yr ysgol neu'r gymuned, i wreiddio'r syniadau a'r arferion da
- Cael help i ddatblygu diwylliant bwyd cynaliadwy yn eu hysgol neu gymuned
- Dod yn rhan o ddull cadarnhaol a chyffrous o fynd i’r afael â’r heriau newid hinsawdd a diogelwch bwyd.
Mae cyfranogwyr y cwrs yn gadael gyda'r hyder, angerdd, sgiliau a thechnegau i ddefnyddio bwyd fel offeryn dysgu ac ymgysylltu trawsnewidiol mewn ysgolion.
“Diolch am greu hyn a dod ag e i ni. Bydd camau cadarnhaol yn ein cymunedau diolch i’r dyddiau diwethaf hyn. Rwy’n gobeithio y gallwch chi rannu hyn gyda chymaint o bobl â phosibl”
Coginio Cartre
Rydym yn cynnal cyrsiau coginio cartref ar gyfer grwpiau amrywiol - o ddefnyddwyr banciau bwyd i rieni a grŵpiau cymunedol o bob math. Mae'r cyrsiau 6 wythnos hyn yn rhoi'r hyder a'r cymhelliant i bawb i goginio bwyd iach, fforddiadwy a blasus o gynhwysion ffres. Mae pobl wedi dweud eu bod wedi dod i ffwrdd gyda golwg hollol wahanol ar fwyd.
Mae cwrs coginio cartref yn cynnwys:
- Coginio prydau blasus a iach gan ddefnyddio cynhwysion syml.
- Cynllunio prydau, gan gynnwys ar gyllideb.
- Lleihau gwastraff bwyd.
“Erbyn iddyn nhw gwblhau’r cwrs, doedd 6 allan o’r 8 cyfranogwr ddim angen pecynnau’r banc bwyd mwyach!”
Addysg Pellach ac Uwch
Un o'n nodau allweddol wrth i ni sefydlu Cegin y Bobl yw i edrych i'r dyfodol - drwy fuddsoddi mewn addysg. Ochr yn ochr ag addysgu arweinwyr cymunedol a phlant ysgol mae angen i ni godi'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr bwyd, llunwyr polisi a chogyddion a ffermwyr angerddol yng Nghymru - felly rydym yn gweithio gyda phartneriaid gwych i ddarparu addysg gyffrous a real mewn bwyd a ffermio.
Mae'r galw am addysg gyfannol, lefel uchel mewn systemau bwyd, arweinyddiaeth bwyd, cynhyrchu bwyd a ffermio adfywiol yn uchel, heb unrhyw arweinydd presennol yn y farchnad yn nhirwedd Addysg Uwch y Deyrnas Unedig. Mae'r angen am raddedigion a hyfforddeion sydd â gwybodaeth fanwl o'r system fwyd ac atebion yn y byd go iawn i broblemau byd-eang eisoes yn real a dim ond tyfu a wnaiff yn y blynyddoedd i ddod wrth i siociau’r hinsawdd a gwleidyddiaeth y byd luosiogi.
Gwyliwch y gofod hwn wrth i ni ddatblygu ein cynnig cychwynnol...